Gal·lès
Gal·lès
Per Hilary Chapman
Cerddent yn araf. Gŵr dwys a difrifol oedd y talaf ohonynt, wedi’i wisgo’n drwsiadus,
ac â barf lwyd a bochau cochion ganddo; edrychai’r llall, un main, heb eillio,
fel petai’n ymadfer wedi salwch. Roeddynt ar ganol sgwrs ac o bryd i’w gilydd
byddai’r gŵr tal yn aros gan dynnu ei law dros ei farf fel petai am bwyso’i
eiriau’n ofalus.
-Mewn bywyd prif fod amser i bopeth. Chwerthin a chrio, cael hwyl a gwagswmera …
ac ar union ddiwrnod eich geni rhaid ichi ymbaratoi i farw. Welwch chi,
mae babanod yn eu clytiau am grio oherwydd maen nhw’n ei glywed yn barod.
-Yn clywed beth yn barod?
-Aroglau angau sydd o’n cwmpas ni ym mhobman… Mae dyn yn dod i arfer ag e ymhen amser…
____________________